Monday, February 13, 2023

Etholiadau NEC UNSAIN 2023: Datganiad John Gray ar gyfer Sedd Gyffredinol y Gymuned (Papurau pleidleisio yn gollwng 17/4/23)

"Rwy’n gweithio i gymdeithas tai ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol cymhleth, cam-drin domestig a thwyll tenantiaeth. Fel gweithiwr tai, rwy’n deall yn uniongyrchol straen ac anawsterau darparu gwasanaethau cyhoeddus. Fel stiward a Chynullydd Cenedlaethol, rwy’n gweithio’n galed yn ddyddiol i helpu aelodau pan fo angen help arnynt fwyaf, gan eu cynrychioli gyda materion disgyblaeth, absenoldeb salwch ac achwyniadau yn ogystal â chyd-drafod gyda’m cyflogwr ar gyflog, amodau a thelerau.

Yn rhy aml, cais y sector cymunedol ei danbrisio a’i anwybyddu. Yn aml mae gennym amodau a thelerau gwaeth na’r rheiny sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan ymddiriedolaethau ysbytai neu awdurdod lleol. Mae angen llywodraeth ar weithwyr cymunedol sy’n parchu ein sector a’r gwasanaethau pwysig rydym yn eu darparu.

Fy niddordeb arbennig yw pensiynau ac rwy’n cynrychioli UNSAIN ar ddau fwrdd pensiwn. Dylai fod gan bawb yr hawl i bensiwn teg a da, ac mae ein sector yn aml yn dioddef cyfraniadau cyflogwr is a buddion gwaeth.

Yn ogystal â bod yn weithiwr rheng flaen, rwy’n actifydd profiadol. Fi yw Cynullydd UNSAIN Cenedlaethol dros fy nghyflogwr ac rwy’n Aelod Gweithredol y Grŵp Gwasanaethau Cymunedol, ac yn gyn-aelod NEC. Rwyf wedi bod yn aelod gweithredol ar gyfer canghennau llywodraeth leol a chymunedol ers dros 29 o flynyddoedd, ac yn flaenorol rwyf wedi bod yn ysgrifennydd, yn drysorydd ac yn swyddog iechyd a diogelwch cangen.

Fel eich aelod NEC, rwy’n addo mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig a rhoi ein haelodau wrth wraidd popeth – fel yr wyf wedi’i wneud bob tro.

Pleidleisiwch dros Denise Thomas (Sedd Gymunedol Fenywaidd)

Os ydyn ni’n cael ein hethol, rydym yn addo’r canlynol:

Rhoi Aelodau’r Gymuned yn Gyntaf – Byddwn yn cynrychioli pob un o’r 82,000 o aelodau UNSAIN gan godi’r materion sydd bwysicaf i aelodau’r gymuned a changhennau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod aelodau’r gymuned yn derbyn safon cynrychiolaeth, cyngor cyfreithiol a chymorth gan UNSAIN pan fo’u hangen arnynt fwyaf.

Mynd i’r Afael â’r Argyfwng Costau Byw - mae angen codiad cyflog cyfiawn ym mhob cyflogwr trydydd sector a rhagor o adnoddau er mwyn i ganghennau wneud hynny. Mae gennym y cyflogau isaf a’r amodau a thelerau gwaethaf a disgwylir i ni oroesi ar ewyllys da a’n brwdfrydedd dros ein sector. Mae angen ariannu tymor hir gwirioneddol a pharch at y gwasanaethau pwysig rydym yn eu darparu.

Sefyll yn Unedig a Gwrthod Rhaniad - Byddwn yn gweithio gyda, ac yn cefnogi Christina McAnea, yr Ysgrifennydd Cyffredinol etholedig i gyflawni ar gyfer yr holl aelodau. Gwnaeth pleidlais o ddiffyg hyder yn yr NEC y llynedd ddangos yr hyn sydd bwysicaf yw gweithio ar gyfer newid cadarnhaol a chynyddol yn ein hundeb - dim bychander a diogelu unigolion.

Sicrhau bod gan bawb lais yn UNSAIN - Mae gan y gymuned dros 80% o aelodau sy’n fenywod a 20% o aelodau du gyda gweithlu amrywiol ar draws yr holl ranbarthau a chenhedloedd. Mae’n rhaid i UNSAIN gynrychioli’r holl aelodau a dylai’r NEC gael ei arwain gan y rheiny sy’n gwneud.

Brwydro yn erbyn gwahaniaethu a’i roi wrth wraidd UNSAIN- Ni ddylai unrhyw un byth brofi hiliaeth, casineb at fenywod, rhywiaeth, trawsffobia, homoffobia, rhagfarn ar sail oedran, anabledd neu unrhyw ffurf arall ar wahaniaethu naill ai yn y gweithlu neu’r undeb. Rydym yn addo gweithio gyda’r holl Grwpiau Hunan-drefnu i gefnogi eu blaenoriaethau".

No comments: